top of page
Hafan

​

Croeso i wefan Mapiau.Net. Cychwynnodd fel ymgais i ymgydnabod yn iawn â hyd a lled hen raniadau Cymru, a dyna a arweiniodd maes o law at greu map o Gymru yn oes y tywysogion.

​

Yna, yn ystod y cyfnodau clo yn 2020 a 2021, heb ddim byd gwell i wneud, dechreuais wneud dadansoddiad manwl o gyfrifiad 1891, pan ofynnwyd cwestiwn am y tro cyntaf am yr ieithoedd a siaredid yng Nghymru, gan edrych ar y brodorion hÅ·n ym mhob ardal. Medrid wedyn lunio mapiau yn dangos y sefyllfa ieithyddol pan oedd Cymru newydd gychwyn ar newidiadau ysgubol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

​

I gyd-fynd â hynny gwnaethpwyd dadansoddiad cyfatebol o gyfrifiad crefyddol 1851 er mwyn medru gweld pa mor gryf oedd anghydffurfiaeth a’r eglwys sefydledig ym mha ardaloedd yn yr un cyfnod.

​

Felly dyna sylfaen tair adran y wefan. Efallai, gydag amser a dyfalbarhad y medrir ychwanegu mwy maes o law.

​

Gobeithio y bydd y wybodaeth a gyflwynir yma yn taro rhywfaint o oleuni pellach ar rai agweddau gweddol dywyll o’n gorffennol.

​

Rhaid derbyn mai mater o farn yw ffordd y dewisir dangos gwybodaeth, ond croesewir unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwelliannau neu gywiriadau posibl.

​

Glyn Hughes

bottom of page