top of page
 
Cyfrifiad Crefyddol 1851
 

Tan yn ddiweddar, unwaith yn unig y cynhaliwyd arolwg cynhwysfawr o ymlyniad crefyddol ym Mhrydain. Ym 1851 y digwyddodd hynny dan drefn Cyfrifiad cyffredinol y flwyddyn honno, ac yr oedd yn trin gyda phresenoldeb pobl mewn gwasanaethau crefyddol ar ddyddiad penodol, sef dydd Sul 30 Mawrth 1851, a gyda’r ddarpariaeth ar eu cyfer.

​

Cyhoeddwyd yr adroddiad ym 1853 ac yr oedd yn cynnwys tablau ar gyfer pob dosbarth cofrestru yng Nghymru ac yn Lloegr gan ddangos faint oedd wedi bod yn bresennol yng  ngwasanaethau crefyddol ac yn ysgolion Sul pob enwad ar y diwrnod hwnnw yn y bore, yn y prynhawn a gyda’r nos. (Census of Great Britain 1851. Religious Worship in England and Wales. Report and Tables.)

​

Yng Nghymru yr oedd yna 48 o ddosbarthau cofrestru a rheiny yn eu tro yn cynnwys 181 o is-ddosbarthau. Nid oedd y dosbarthau cofrestru yn cyfateb yn gywir gyda ffiniau’r siroedd hanesyddol nac ychwaith gyda’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Felly yr oedd y dosbarthau Cymreig ar y ffin yn cynnwys rhannau bach o Loegr, a’r rhai Seisnig yn cynnwys ambell i blwyf yng Nghymru.

​

Trefn y cyfrifiad oedd fod y swyddogion lleol ym mhob is-ddosbarth yn dosbarthu ffurflenni i bob addoldy yn eu hardal yn gofyn faint oedd yn bresennol ym mhob gwasanaeth. Wedi eu casglu yn ôl fe’u hanfonid i gofrestrydd y dosbarth a hwnnw yn ei dro yn eu hanfon ymlaen i’r swyddfa ganolog yn Llundain. Yno yr oedd clercod y Gofrestrfa Gyffredinol yn eu rhoi at ei gilydd ac yn gwneud cyfrif o faint oedd wedi bod yn bresennol yng ngwasanaethau pob enwad ym mhob dosbarth cofrestru ar wahanol adegau o’r dydd. Dyna’r wybodaeth a gyhoeddwyd yn nhablau’r adroddiad.

​

Dros ganrif yn ddiweddarach cychwynnodd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru gasglu ac adolygu’r ffurflenni gwreiddiol a gasglwyd ar gyfer yr addoldai unigol yng Nghymru. Maes o law fe’u cyhoeddwyd mewn dwy gyfrol ym 1976 a 1981 dan olygyddiaeth Ieuan Gwynedd Jones a David Williams. (The Religious Census of 1851. A Calendar of the Returns Relating to Wales).

​

Mae’r map cyntaf yn seiliedig ar y tablau a gyhoeddwyd yn adroddiad 1853 ac yn  dangos y nifer oedd yn bresennol mewn gwasanaethau Anghydffurfiol ar gyfer pob dosbarth cofrestru yn Nghymru ac ar gyfer y rhai yn Lloegr yr oedd modd eu cynnwys ar y map. Mae’r ail fap yn dangos faint oedd yn bresennol yng ngwasanaethau’r Eglwys Sefydledig, a’r trydydd yn rhoi’r un wybodaeth ar gyfer pawb o bob enwad.

​

Mae’r pedwerydd map yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd ar ffurflenni pob capel Anghydffurfiol, ar gyfer pob is-ddosbarth cofrestru yng Nghymru fel y cyhoeddwyd hwy gan y Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Mae’n dangos y cyfanswm oedd yn bresennol yn yr holl wasanaethau ac ysgolion Sul yn ôl y ffurflenni hynny (wedi eu crynhoi yn fras, at y cant agosaf). Gan hynny, os oedd unigolyn yn bresennol mewn dau neu dri gwasanaeth, fe’i cyfrwyd ddwywaith neu deirgwaith. 

​

Ni fedrir gor-ddehongli’r wybodaeth fanwl a ddangosir, am nifer o resymau:

​

  • Mae yna fylchau yn y wybodaeth a anfonwyd ymlaen i Lundain. Er enghraifft, mae’r map yn dangos ardal amlwg  o wendid Anghydffurfiol cymharol yng ngogledd-ddwyrain Môn. Fodd bynnag, ar gyfer pedwar o gapeli’r Methodistiaid Calfinaidd yn unig y rhoddwyd gwybodaeth ar gyfer anghydffurfwyr ym mhlwyf mawr Amlwch, ond, yn ôl cyfeirlyfr S. Lewis ar gyfer ychydig flynyddoedd ynghynt, yr oedd yno hefyd nifer o gapeli gan y Wesleaid, y Bedyddwyr a’r Annibynwyr. Felly mae’n bosibl nad oedd y gwahaniaeth amlwg a ddangosir ar y map rhwng yr ardal honno a’r rhai o’i chwmpas yn bod mewn gwirionedd.

​

  • Mae’r wybodaeth a anfonwyd ymlaen i Lundain wedi mynd ar goll yn llwyr ar gyfer un dosbarth cofrestru yng Nghymru, sef Ffestiniog, ac ar gyfer un yn Lloegr oedd yn ymestyn i Gymru, sef Great Boughton (Caer).

  • Rhaid dibynnu ar ddilysrwydd y wybodaeth a ddarparwyd gan weinidogion neu swyddogion y capeli. Yr oedd rhai wedi cynnal cyfrif manwl ond eraill wedi gwneud amcangyfrif bras iawn, mewn sawl achos at y cant agosaf. Yr oedd rhai Eglwyswyr wedi honni mai twyll oedd yn cyfrif am rai o gynulleidfaoedd mawr y capeli, ond nid yw’n amlwg fod yna lawer o or-gyfrif bwriadol.

  • Mae’r ffigurau a roddwyd yn adroddiad y cyfrifiad ar gyfer pob dosbarth cofrestru yn aml – ond nid ym mhob achos - yn sylweddol is na chyfanswm y ffigurau a roddwyd gan y capeli unigol, am resymau nad ydynt yn eglur.  Felly nid yw’r map ar gyfer ir is-ddosbarthau yng Nghymru ar yr un sail a’r rhai ar gyfer y dosbarthau cyfan yn Nghymru ac yn Lloegr

  • Yr oedd yna nifer o gapeli gyda chynulleidfaoedd mawrion wedi eu lleoli ar ffiniau plwyfi ac is-ddosbarthau cofrestru yn tynnu llawer o’u cynulleidfaoedd dros y ffiniau hynny. Er mwyn ceisio osgoi creu camargraff oherwydd hynny, bu’n rhaid cyfuno rhai is-ddosbarthau, neu rannau ohonynt. Hefyd, cyfunwyd rhai o’r is-ddosbarthiadau lleiaf, sef y rhai gyda phoblogaeth o lai na dwy fil. Ar y llaw arall, rhannwyd rhai is-ddosbarthau pan fo’n amlwg fod yna wahaniaethau sylweddol yn apêl y capeli rhwng gwahanol rannau ohonynt.

 

Serch hynny i gyd, mae’r patrwm daearyddol a ddadlennir gan y mapiau yn ddigon amlwg. Yr oedd yna wahaniaeth amlwg rhwng Cymru a Lloegr yn y nifer oedd yn mynychu gwasanaethau ac ysgolion Sul Anghydffurfiol ac yn y nifer oedd yn mynychu gwasanaethau pob enwad gyda’i gilydd. Nid oedd yna amrywiaeth mor amlwg yn y nifer oedd yn mynychu gwasanaethau’r Eglwys, er fod y niferoedd wrth reswm rywfaint yn llai yn yr ardaloedd cryfaf ar gyfer yr Anghydffurfwyr.

​

Yng Nghymru yr oedd cryfder y capeli yn amrywio’n fawr rhwng gwahanol ardaloedd. Mewn llawer i ardal yn y gogledd-orllewin yn arbennig yr oedd y nifer yn bresennol ym mhob gwasanaeth ac ysgol Sul Anghydffurfiol yn uwch o dipyn na phoblogaeth yr ardal, sydd yn awgrymu mor gyffredin yno oedd mynd i’r capel ddwywaith neu deirgwaith ar y Sul.

Dim ond ar y ffin oedd yna ardaloedd gyda phresenoldeb mewn gwasanaethau Anghydffurfiol mor isel ag oedd yn gyffredin yn Lloegr. Fel arall yr ardaloedd amlycaf o wendid Anghydffurfiol cymharol oedd hen Saesonaethau de Sir Benfro a Bro Gwyr. Ardal arall gyda nifer cymharol isel mewn gwasanaethau Anghydffurfiol oedd dyffryn Teifi yn ne Ceredigion a gogledd Sir Gaerfyrddin. Dyna’r ardal a elwid yn “Smotyn Du” gan y Methodistiaid Calfinaidd gan eu bod yn ei weld fel talcen caled iddynt, wedi i’r Undodwyr achub y blaen arnynt yno.

​

Peth arall sy’n amlwg yw nad oedd y trefi yn llwyr ddilyn patrwm yr ardaloedd gwledig o’u cwmpas. Yn y gogledd-orllewin, ble yr oedd Anghydffurfiaeth ar ei gryfaf, ymddengys fod apêl y capeli yn llai yng Nghaernarfon a Bangor nag yn yr ardaloedd chwarelyddol ac amaethyddol o’u cwmpas. Yn y de-ddwyrain mae’r un peth yn amlwg yn wir am Gaerdydd. Yn ne Sir Benfro, ar y llaw arall yr oedd apêl y capeli yn gryfach yn nhrefi Hwlffordd, Doc Penfro a Neyland nag yn yr ardaloedd gwledig.

​

Yr oedd yna gyfatebiaeth gyffredinol digon amlwg rhwng yr ardaloedd oedd yn ochri fwyaf at Anghydffurfiaeth a’r rhai oedd yn cynnal yr iaith Gymraeg yn yr un cyfnod, ond nid oedd hynny’n wir yn y manylion. Er enghraifft yr oedd mwyafrif yn dal i siarad Cymraeg yn y rhan wledig honno o sir Fynwy rhwng y maes glo i’r gorllewin ac afon Wysg i’r dwyrain, ond ychydig iawn o bresenoldeb oedd gan Anghydffurfiaeth yn yr un ardal. Yn nyffryn Teifi, fel y crybwyllwyd eisoes, yr oedd y capeli’n gymharol wan mewn ardal hollol Gymraeg.

Attendance at Nonconformist services in Wales and the marches in 1851
Attendance at Anglican services in Wales and the marches in 1851
Attendance at the services of all denominations in Wales and the marches in 1851
Attendance at Nonconformist services in Wales by sub-district in 1851
Y Data

 Mae'r ddau dabl isod yn dangos y ffigurau y seiliwyd y mapiau arnynt.

 

Mae'r tabl cyntaf yn rhoi'r ffigurau a gyhoeddwyd yn adroddiad y cyfrifiad ar gyfer y nifer oedd yn bresennol yng ngwasanaethau pob enwad yn nosbarthau cofrestru Cymru a'r rhai yn Lloegr y medrid eu cynnwys ar y map.

​

Mae'r ail dabl yn dangos y nifer, at y cant agosaf, oedd yn bresennol mewn gwasanaethau anghydffurfiol yn yr is-ddosbarthau yng Nghymru yn ôl y ffurflenni a ddychwelwyd at swyddogion lleol y cyfrifiad ym mhob dosbarth gan swyddogion y gwahanol addoldai. Mae'n bwysig nodi fod y ffigurau hynny yn wahanol i'r rhai a gyhoeddwyd yn adroddiad y cyfrifiad, a dangosir y gwahaniaeth ar gyfer pob dosbarth yn y tabl.

Dosbarthau.jpg
Is-ddosbarthau.jpg
bottom of page