top of page
Cyfrifiad Iaith 1891
​

Cymraeg oedd iaith gyffredin Cymru hyd at  o gwmpas troad y ddeunawfed ganrif, gydag ambell eithriad megis de Sir Benfro a Bro Gŵyr. Wedi hynny bu yna symudiad i gyfeiriad defnyddio Saesneg, gan ddechrau ar y ffin, a chynyddu’n raddol nes bod rhannau o siroedd y gororau wedi troi fwy neu lai yn gyfan gwbl at y Saesneg erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

​

Cynhaliwyd nifer o arolygon anffurfiol o gyflwr ieithyddol gwahanol rannau o’r wlad yn ystod y ganrif honno(1,2,3), ond y tro cyntaf i arolwg gwirioneddol gynhwysfawr a thrylwyr gael ei gynnal oedd yng nghyfrifiad 1891, pan gynhwyswyd am y tro cyntaf gwestiwn am yr iaith neu’r ieithoedd a siaredid gan bobl yng Nghymru.

​

Pwrpas yr ymdriniaeth hon yw defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd yng nghyfrifiad 1891 i geisio rhoi darlun cywir o’r sefyllfa ieithyddol yng Nghymru mor gynnar â phosibl. Aethpwyd ati i geisio rhoi rhywfaint o gnawd ar esgyrn yr hyn a gyhoeddwyd ynglÅ·n â’r iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yng Nghymru yn adroddiad y cyfrifiad trwy edrych ar y ffurflenni a gwblhawyd ar gyfer pob dosbarth cyfrif ym mhob plwyf. Er mwyn cael darlun o’r sefyllfa ieithyddol o gwmpas canol y ganrif nodwyd beth a ddywedwyd am iaith y preswylwyr hynny oedd yn frodorion lleol a thros hanner cant oed pan gynhaliwyd y cyfrifiad.

  1. E.G. Ravenstein, On the Celtic Languages in the British Isles: a statistical survey.  Journal of the Royal Statistical Society (1879)

  2. A.J. Ellis, On the Delimitation of the Welsh and English Languages, Y Cymmrodor (1882)

  3. J.E. Southall, Wales and her Language (1893)

Crynodeb o’r Canlyniadau

​

Fel y dangosir ar Fap 1, dros y rhan fwyaf o ddigon o’r wlad, Cymraeg oedd y brif iaith gyda phawb neu bron bawb yn ei siarad. Mewn ardaloedd cyfyngedig ar y ffin ac yn hen Saesonaethau de Penfro a Bro Gŵyr ar y llaw arall, ni siaredid mohoni gan neb, neu bron neb. Rhwng yr ardaloedd hynny o gymeriad hollol bendant, yr oedd yna ardal gyfyng fwy cymysg, ble y siaredid Cymraeg gan rywle rhwng 5% a 95% o’r hen frodorion. Yn fras, cynhwysai’r ardal gymysg hon ddeuparth gorllewinol Sir Fynwy, traean dwyreiniol Brycheiniog, traean gorllewinol Sir Faesyfed ynghyd â rhimyn cul o dir rhwng yr ardaloedd trwyadl Gymraeg a thrwyadl Saesneg yn siroedd Fflint, Dinbych, Trefaldwyn a Phenfro.

​

Dengys Map 2 faint oedd yn siarad Saesneg ym mhob ardal, sef pawb, bron bawb neu o leiaf fwyafrif sylweddol yn yr ardaloedd hynny lle nad oedd pawb neu bron bawb yn siarad Cymraeg. Yn y rhan fwyaf o’r ardaloedd trwyadl Gymraeg hynny lleiafrif oedd yn siarad Saesneg, ond yr oedd yna ardaloedd eraill, gan gynnwys y rhan fwyaf o’r trefi mwy, ble yr oedd dros hanner yn ei siarad.

​

Dengys Map 3 grynhoad o’r sefyllfa ieithyddol ym mhob ardal. Gydag ychydig iawn o eithriadau, yr oedd yna fwyafrif clir ym mhob ardal oedd un ai’n siarad Cymraeg yn unig, neu Saesneg yn unig, neu’n siarad y ddwy iaith.

​

Dengys Map 4 grynhoad arall, gan ddidoli Cymru rhwng yr ardaloedd ble y siaradid mwy o Gymraeg na Saesneg a’r rheiny ble y siaradid mwy o Saesneg na Chymraeg. Gwelir mai’r Gymraeg oedd ar y blaen ym Morgannwg (ac eithrio Bro Gwyr, rhan o Abertawe, ardal Caerdydd ac ychydig o blwyfi yng ngwaelod eithaf Bro Morgannwg) ac yng ngorllewin Sir Fynwy.

​

Mae hyn yn cadarnhau’r rhan fwyaf o gasgliadau arolygon llai ffurfiol a gynhaliwyd yn ystod y 19eg ganrif, ond gyda gwybodaeth lawnach.

Percentage speaking Welsh in each parish
Percentage speaking English in each parish
Leading language in each parish
Language majority in each parish
 
Ystyr y Canlyniadau
 

Cyflogid swyddogion lleol i fynd o dÅ· i dÅ· er mwyn holi pwy oedd yn byw yno. Wrth gael ateb i’w gwestiynau, byddai’r swyddog rhifo yn llenwi’r manylion ar ffurflen gyda cholofnau ar gyfer enwau’r trigolion, eu hoedran, eu gwaith, eu perthynas a’r penteulu a’u mannau geni, yn ogystal â’r golofn ar gyfer “Language Spoken”, gyda’r cyfarwyddyd “If only English, write ‘English’; if only Welsh, write ‘Welsh’; if English and Welsh, write ‘Both’”.

​

Gan hynny, yr oedd yr hyn a gofnodid ar y ffurflen yn dibynnu ar sut y gofynnid y cwestiwn gan y swyddog, sut yr oedd y trigolion yn deall y cwestiwn, sut yr oedd y swyddog yn deall yr ateb a sut yr oedd yn nodi’r ateb hwnnw. Mae yna le i feddwl bod rhai swyddogion cyfrif yn fwy tebyg o gofnodi pobl ddwyieithog nag eraill. Er enghraifft, ym Mro Morgannwg, cofnodwyd bod pob un o’r 31 o hen frodorion plwyfi’r Barri, Merthyr Dyfan, Tregatwg a Sili yn siarad y ddwy iaith. Ym mhlwyf cyfagos Llanfleiddan,  cofnodwyd bod 3 allan o’r 33 yn uniaith Saesneg a 12 yn uniaith Gymraeg. Nid yw amrywiadau o’r fath yn tarfu ar y darlun cyffredinol, ond maent yn rhybuddio na ddylid gor-ddehongli’r canlyniadau ar gyfer ardaloedd bychain.

​

Mae’n  eithaf tebyg bod llawer o’r swyddogion cyfrif a’r bobl a holwyd ganddynt wedi dehongli’r cwestiwn i feddwl “Pa iaith fyddwch chi yn ei siarad?” yn hytrach na “Pa iaith fedrech chi ei siarad pe byddai gofyn i chi wneud?”. Hefyd, gall “ Pa iaith fyddwch chi’n ei siarad” olygu gwahanol bethau i wahanol bobl, gyda rhai yn cynnwys yr ieithoedd a ddefnyddir ym mhob sgwrs a gynhelir ganddynt o bryd i’w gilydd ac eraill yn ateb ynghylch yr iaith a ddefnyddir ganddynt yn fwyaf rheolaidd, neu ba iaith oedd hawddaf ganddynt ei defnyddio.

​

Gwneir hynny yn amlwg gan y nifer o weithiau y gwelwyd parau priod gyda’r gŵr yn dweud mai’r naill iaith a siaradai a’r wraig yn dweud mai’r llall a siaradai. Ym mhlwyf Amlwch, er enghraifft, un brodor dros 50 yn unig oedd wedi ateb i ddweud mai Saesneg oedd ei unig iaith, sef “master mariner” o’r enw William Roberts. Cymraeg yn unig a gofnodwyd ar gyfer Jane ei wraig. Yn amlwg, prin ei bod yn bosibl mewn gwirionedd nad oedd y naill yn medru deall iaith y llall. Efallai ei fod yn dweud mai Saesneg oedd ei iaith am mai dyna’r iaith a ddefnyddiai’n rheolaidd yn ei waith yn teithio o borthladd i borthladd.

​

Yr oedd yna nifer o blwyfi eraill yn yr ardaloedd mwyaf Cymraeg gydag un neu ddau o unigolion fel hyn ble y cofnodwyd mai Saesneg yn unig oedd eu hiaith. Fel arfer, mae’n ymddangos eu bod mewn rhyw ffordd yn byw ar wahân i’r gymdeithas leol. Mewn sawl ardal y sgweier lleol oedd yr unigolyn di-Gymraeg. Gwelid hefyd unigolion oedd wedi symud yn ôl i’w hardaloedd genedigol wedi bod i ffwrdd am flynyddoedd, gyda phriod a phlant wedi eu geni yn Lloegr. Ym Miwmares cofnodwyd gwraig nad oedd yn byw yno ond ei bod yn ymweld â’i thad, a ddisgrifid fel “Retired Collector of Customs”. Dro arall, mae’n debyg mai camgymeriad ar y ffurflen oedd yn arwain at bobl yn cael eu disgrifio’n groes i’r disgwyl, fel chwarelwr llechi a’i wraig ym mhlwyf Llanwnda y dangoswyd eu hiaith fel Saesneg gyda marciau “ditto” yn dilyn y teulu oedd o’u blaenau ar y ffurflen, a oedd yn ôl pob golwg newydd symud yno o Loegr.

​

Yn yr ardaloedd mwyaf Cymraeg, fel rheol, yr oedd pawb yn ddieithriad yn siarad Cymraeg. Mae natur yr eithriadau prin yn gwneud yn glir nad oedd yna fawr o wahaniaeth gwirioneddol rhwng plwyf ble yr oedd pawb yn cael ei gofnodi yn siarad Cymraeg ac un arall ble yr oedd yna ambell i eithriad.

​

Serch hynny, mae’r canlyniadau yn dangos yn ddigon eglur beth oedd cymeriad ieithyddol y gwahanol rannau o Gymru. Ychydig iawn o ardaloedd oedd yna ble nad oedd mwyafrif wedi eu cyfrif yn siarad Cymraeg yn unig, neu Saesneg yn unig, neu’r ddwy iaith.

​

 

Y Canlyniadau, fesul Sir

 

Môn

​

Yr oedd pawb yn siarad Cymraeg ac eithrio ambell unigolyn mewn tri o blwyfi yn unig. Yn nhref Caergybi, yr oedd yn agos i hanner yn siarad Saesneg yn ogystal â Chymraeg, ac yr oedd hynny’n wir am fwyafrif sylweddol ym Miwmares, ble yr oedd dau yn siarad Saesneg yn unig, 36 Cymraeg yn unig, a 116 yn siarad y ddwy iaith. Ym mhob man arall, lleiafrif oedd yn siarad Saesneg.

​

Sir Gaernarfon

​

Yma hefyd, dim ond unigolion yma ac acw oedd yn siarad Saesneg yn unig, sef dau ym Mhwllheli, un yn Llanystumdwy, dau yn Llanwnda a dau yn Llandudno.  Yr unig leoedd ble yr oedd mwyafrif yn siarad y ddwy iaith oedd trefi Bangor, Conwy a Llandudno.

​

Meirionnydd

​

Yr oedd pawb yn siarad Cymraeg, a Chymraeg yn unig yn cyfrif am y mwyafrif ym mhob plwyf.

​

Sir Ddinbych

​

Yr oedd gorllewin y sir yn debyg i Fôn a Sir Gaernarfon, gyda mwyafrif yn siarad y ddwy iaith yn nhrefi Dinbych a Rhuthun yn unig.

​

Yn nwyrain y sir, yr oedd y darlun yn un cymysg, gyda phawb neu bron bawb yn siarad Cymraeg ym mhlwyfi Dyffryn Ceiriog, Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llansilin yn ogystal â Rhosllannerchrugog a Mwynglawdd. Cymraeg hefyd a siaradai mwyafrif sylweddol yn ardaloedd Cefn Mawr, Pen-y-cae, Coedpoeth, Brymbo a Brychdyn, ynghyd â mwyafrif llai yn Rhiwabon. Fe’i siaredid hefyd gan leiafrif sylweddol yn y Waun, Rhostyllen a Gwersyllt. Ychydig iawn oedd yn ei siarad yn nhref Wrecsam a’r ardaloedd i’r dwyrain ohoni. Yn ardaloedd Holt, Gresffordd, Llai ac Erbistog, ni chofnodwyd fod unrhyw un o’r hen frodorion yn ei siarad. Fodd bynnag dylid nodi’r gwahaniaeth rhyngddynt ac ardal yr Orsedd, ar y ffin, ble y cofnodwyd bod pump allan o 82 o’r hen frodorion yn siarad Cymraeg. Awgryma hynny nad oedd y Gymraeg mor llwyr ddiflanedig yn nwyrain eithaf y sir ag a awgrymir gan ganlyniadau’r plwyfi eraill.

 

Beth bynnag am hynny, mae’n amlwg mai dim ond yn yr ardaloedd i’r gorllewin o Wrecsam yr oedd y Gymraeg yn gryfach na’r Saesneg. Mewn lleoedd fel y Waun, Rhiwabon a Brychdyn ac ym mhob man i’r dwyrain iddynt, yr oedd mwy yn siarad Saesneg na Chymraeg. Yn yr ardaloedd yn ymyl Wrecsam ble y siaredid Cymraeg gan fwyafrif, yr oedd y rhan fwyaf hefyd yn siarad Saesneg. Yn Rhosllannerchrugog yn unig yr oedd y mwyafrif yn uniaith. Yr oedd y mwyafrif mewn plwyfi Cymraeg fel Llangollen a Llansilin hefyd yn siarad Saesneg yn ogystal â Chymraeg.

​

Sir y Fflint

​

Yn y rhan fwyaf o ddigon o sir y Fflint, siaredid Cymraeg gan bawb neu bron bawb, gan gynnwys lleoedd mor bell i’r dwyrain â Bagillt, Rhosesmor, yr Wyddgrug, Treuddyn a Llanfynydd. Fe’i siaredid hefyd gan y rhan fwyaf o ddigon yn y Fflint, Llaneurgain a Choed-llai. Lleiafrif a’i siaradai yng Nghei Connah, Pentre-moch, Bwcle a’r Hôb, a neb yn ardaloedd Penarlâg a Maelor Saesneg. Dim ond yr ardaloedd ble yr oedd yn cael ei siarad gan leiafrif gweddol fychan yn unig oedd yna lai yn siarad Cymraeg na Saesneg, ond yr oedd yna fwyafrif yn siarad y ddwy iaith mewn rhannau helaeth o’r sir, gan gynnwys y Rhyl, Llanelwy, Caerwys, Treffynnon, y Fflint a’r Wyddgrug.

​

Sir Drefaldwyn 

​

Rhennid Sir Drefaldwyn rhwng gorllewin a gogledd Cymraeg a dwyrain a de Saesneg, gyda gwrthgyferbyniad eglur iawn rhyngddynt. Dim ond rhimyn cul o dir oedd yna rhwng yr ardal ble y siaredid Cymraeg gan bawb neu bron bawb o’r brodorion dros 50 a’r ardal oedd yn tynnu at fod yn uniaith Saesneg. Yn y plwyfi Cymraeg oedd yn agos ar yr ardal Saesneg yr oedd mwyafrif yn siarad y ddwy iaith. Fel arall dim ond yn nhref Machynlleth yr oedd yna fwyafrif dwyieithog.

​

Sir Faesyfed

​

Maesyfed oedd y Seisnicaf o ddigon o siroedd Cymru. Dim ond yn y gorllewin eithaf yn ardaloedd Saint Harmon a Chwmteuddwr yr oedd y mwyafrif o’r brodorion dros 50 yn siarad Cymraeg, gyda lleiafrif sylweddol yn nhref Rhaeadr Gwy a lleiafrifoedd llai yn Nantmel ac mewn rhai plwyfi eraill yng ngorllewin y sir. Fodd bynnag, mae yna le i dybio mai yn ddiweddar yr oedd yr iaith wedi cilio o rannau helaeth o’r sir. Edrychwyd yn fanwl ar bob plwyf ac eithrio’r rhai a enwyd er mwyn gweld beth oedd plwyfi genedigol unrhyw siaradwyr Cymraeg o Sir Faesyfed oedd yn byw yno a daethpwyd o hyd i ddau neu fwy o frodorion o’r plwyfi canlynol (gan gynnwys rhai oedd dan 50 oed):

​

  • Cwm Hir (5)

  • Diserth (4)

  • Y Clas ar Wy (2)

  • Llanbadarn Fynydd (2)

  • Llanbadarn Fawr (2)

  • Llandrindod (2)​

​

Mae’r dosbarthiad  yn awgrymu eu bod yn weddillion poblogaeth a arferai siarad Cymraeg tan yn weddol ddiweddar yn hanner gorllewinol y sir.

​

Brycheiniog

​

Saesneg oedd iaith cornel fechan o Frycheiniog yng nghyffiniau’r Gelli. Ac eithrio trefi Crughywel a Llanfair-ym-muallt, siaredid Cymraeg gan  y rhan fwyaf o’r hen frodorion ym mhob man arall. Yn y rhan fwyaf o’r sir, fodd bynnag, yr oedd mwyafrif yn siarad Saesneg yn ogystal. Mae’n debyg mai ym Mrycheiniog yr oedd yr ardal ddwyieithog fwyaf eang yng Nghymru. Gellid crynhoi’r sefyllfa trwy ddweud fod ymylon deheuol a gorllewinol y sir ar derfynau Morgannwg a Sir Gaerfyrddin at ei gilydd yn uniaith Gymraeg. Yr oedd yr ymyl dwyreiniol yn ddwyieithog gyda Saesneg ar y blaen, gyda gweddill y sir yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg ar y blaen.

​

Ceredigion

​

Sir Gymraeg oedd Ceredigion, gyda phawb neu bron bawb yn siarad Cymraeg ym mhob man a mwyafrif uniaith ym mhob man ac eithrio trefi Aberystwyth ac Aberteifi.

​

Sir Benfro

​

Rhennid Sir Benfro yn ddwy ran o gymeriad ieithyddol hollol wahanol i’w gilydd, gyda’r rhan fwyaf o’r gogledd mor Gymraeg â Cheredigion a’r rhan fwyaf o’r de mor Saesneg â Sir Faesyfed. Yr oedd y ffin rhyngddynt yn hollol eglur, gydag ychydig iawn o blwyfi ble nad oedd y mwyafrif o’r brodorion dros 50 yn siarad unai Cymraeg yn unig neu Saesneg yn unig. Ymhlith y plwyfi Cymraeg, yr unig rai ble nad oedd pawb neu bron bawb yn siarad Cymraeg oedd Llanddewi Felffre a’r cylch,  Treamlod a’r casgliad o blwyfi bychain o gwmpas Cas-blaidd. Yn y plwyfi hynny, dim ond tri allan o 44 oedd yn siarad Saesneg yn unig, gyda dau allan o 22 yn Nhreamlod, a dau allan o 39 yn Llanddewi Felffre.

​

Ar yr ochr arall i’r ffin ieithyddol, yr unig blwyfi gyda lleiafrifoedd sylweddol o’r brodorion dros 50 yn siarad Cymraeg oedd Spittal (8 allan o 25), Cas-wis (10 allan o 26), rhan orllewinol Llanhuadain (11 allan o 25) a Gogledd Arberth gyda Robeston Wathen (41 allan o 117). Yr oedd yna nifer o frodorion unigol ar wasgar trwy dde’r sir oedd yn siarad Cymraeg, a gellir tybio eu bod yn aelodau o deuluoedd oedd wedi mudo yno o ogledd y sir.

​

Yr unig blwyfi gyda mwyafrif yn siarad y ddwy iaith oedd Clarbeston a Dwyrain Waltwn gyda'i gilydd ynghyd â Llanbedr Felffre ar y ffin ieithyddol ac Abergwaun yn y gogledd.

​

Sir Gaerfyrddin

​

Ac eithrio cornel fechan ar y ffin â rhan Saesneg Sir Benfro, yr oedd Sir Gaerfyrddin mor Gymraeg â Cheredigion. Yn y gornel honno, Saesneg oedd iaith Marros a Phen-dein a hi hefyd oedd unig iaith y mwyafrif o’r brodorion dros 50 ym mhlwyfi tref Lacharn, Llansadyrnin a Llan-dawg (130 allan o 180). Yr oedd yna leiafrif a siaradai Saesneg yn unig ym mhlwyfi Eglwys Gymyn a Lacharn wledig (11 allan o 41) ond siaredid Cymraeg gan y mwyafrif, hyd yn oed yn yr ardal gyfrifo oedd yn cyrraedd y môr ac yn gwahanu Pen-dein oddi wrth dref Lacharn. Siaredid Cymraeg gan bawb - a Chymraeg yn unig gan y mwyafrif - ym mhlwyfi Cyffig a Llanddowror.

​

Yng ngweddill y sir yr oedd pawb neu bron bawb o’r brodorion dros 50 yn siarad Cymraeg, a dim ond yng Nghaerfyrddin, Llangynnwr a Llanymddyfri yr oedd yna fwyafrif yn siarad Saesneg hefyd.

​

Morgannwg

​

Yr oedd y sefyllfa ieithyddol ym Morgannwg yn fwy cymhleth nag unman arall yng Nghymru, yn rhannol oherwydd effaith twf diwydiannol ac ymfudo yn ystod y 19eg ganrif, ac yn rhannol oherwydd presenoldeb un hen Saesonaeth gyffelyb i Dde Penfro ym Mro Gŵyr a gweddillion un arall a arferai fodoli ym Mro Morgannwg.

​

Yr unig rannau ble yr oedd yna fwy o’r brodorion dros 50 yn siarad Saesneg na Chymraeg oedd Bro Gŵyr, rhan o Abertawe, tref Caerdydd a rhai o’r plwyfi o’i chwmpas, tref y Bont-faen ac ychydig o blwyfi yng ngwaelod eithaf Bro Morgannwg. Yn y rhan fwyaf o lawer o’r sir, felly, Cymraeg oedd y brif iaith. Fodd bynnag, mewn rhan fawr o’r ardal ble yr oedd y Gymraeg ar y blaen i’r Saesneg, yr oedd yn amlwg bod yna newid ar droed, gyda mwyafrif yn siarad Saesneg hefyd.

​

Ym Mro Gŵyr, Saesneg oedd unig iaith pawb neu bron bawb yn rhannau gorllewinol a deheuol y penrhyn. Yr unig leoedd yno gyda lleiafrif o unrhyw faint yn siarad Cymraeg oedd Llanrhidian Isaf (10 allan o 47) a Llandeilo Ferwallt (5 allan o 28). Beth oedd yn cyfrif am y nifer yn siarad Cymraeg yn Llandeilo Ferwallt oedd bod y plwyf yn ymestyn hyd at ardal Cilâ yn y gogledd. Yn y dosbarth cyfrif hwnnw yr oedd y mwyafrif o siaradwyr Cymraeg, gyda gweddill y plwyf yr un mor Saesneg a’r rhai hynny ar y naill ochr a’r llall. Yr oedd plwyf Llanrhidian Uchaf y tu allan i hen Saesonaeth Bro Gŵyr ac felly yn draddodiadol Gymraeg ond yr oedd yr iaith Saesneg wedi ennill y blaen ar y Gymraeg yn y rhan o’r plwyf i’r de o afon Morlais gyda 33 allan o 56 yn siarad Saesneg yn unig. Yng ngweddill y plwyf, sef Penclawdd a’r cylch, dim ond 11 allan o 126 oedd yn siarad Saesneg yn unig. Yn y plwyf nesaf, sef Casllwchwr, yr oedd pawb yn siarad Cymraeg, gyda dros eu hanner hefyd yn siarad Saesneg. 

​

Yng nghylch traddodiadol Abertawe, yr oedd yna pum plwyf, gyda dau ohonynt - plwyfi gwledig Abertawe Uchaf ac Abertawe Isaf - y tu allan i’r fwrdeistref sirol. Yr oedd bron bawb yn Abertawe Uchaf yn siarad Cymraeg a 47 allan o 64 yn Abertawe Isaf. Yn nhri phlwyf y dref, sef plwyf yr hen fwrdeistref (Swansea Town and Franchise) , plwyf Eglwys Ieuan a phlwyf Sant Thomas, yn ogystal â rhan fechan o Abertawe Uchaf a orweddai oddi mewn i’r fwrdeistref sirol, cyfrwyd sampl o 10%, gyda 101 yn siarad Saesneg yn unig, 39 yn siarad Cymraeg yn unig a 100 yn siarad y ddwy iaith. Saesneg oedd ar y blaen felly yn y rhan honno o’r fwrdeistref sirol. Yn rhan arall y fwrdeistref sirol, sef y rhan yn cynnwys Treforys a Glandŵr ac yn perthyn i hen blwyfi Llangyfelach a Llansamlet, cyfrwyd sampl o 25%, gyda phawb yn siarad Cymraeg a lleiafrif (86 allan o 244) yn siarad y ddwy iaith.

​

Yng ngweddill plwyfi cylch Abertawe, gan gynnwys Cwm Tawe, yr oedd pawb neu bron bawb o’r hen frodorion yn siarad Cymraeg, a lleiafrif yn unig yn siarad Saesneg.

​

Dyna hefyd y sefyllfa yn y rhan fwyaf o blwyfi ardaloedd Nedd ac Afan, ond yr oedd yna fwy o Saesneg o gwmpas trefi Castell Nedd, Llansawel ac Aberafan. Yn y trefi hynny, yr oedd tuag un o bob deg o’r hen frodorion yn siarad Saesneg yn unig, gyda mwyafrif yn siarad y ddwy iaith, fel ag yn rhai o’r plwyfi eraill yn ffinio ar dref Castell Nedd.

​

Yng nghylch Pen-y-bont ar Ogwr, yr oedd pawb neu bron bawb yn siarad Cymraeg ac eithrio yn y dref ei hun, ble yr oedd 7 allan o 116 yn siarad Saesneg yn unig. Yr oedd y mwyafrif yn siarad Saesneg hefyd yn ardaloedd Maesteg, Porthcawl, Trelales ac Abercynffig.

​

Yn ardal y maes glo yn nwyrain Morgannwg, yr oedd pawb neu bron bawb yn siarad Cymraeg ym mhob man. Ceid y gyfradd uchaf na siaradai Gymraeg yn Aberpennar (2 allan o 24) a Llanilltud Faerdref (3 allan o 49). Cymraeg yn unig oedd iaith y mwyafrif yn y rhan fwyaf o’r ardal, ond yr oedd dros hanner hefyd yn siarad Saesneg ym Merthyr a Phontypridd ac yn rhai o’r plwyfi mwyaf deheuol.

​

Cymraeg oedd y brif iaith ym Mro Morgannwg hefyd, gyda’r rhan fwyaf o ddigon yn ei siarad, ond yr oedd mwyafrif hefyd yn siarad Saesneg bron ym mhob man yno. Ym mhlwyfi’r Barri, Uchelolau, Merthyr Dyfan, Tregatwg a Sili yr oedd yna 32 o frodorion dros 50, gyda phob un ohonynt yn siarad y ddwy iaith. Ym mhlwyf Saint Andras (Dinas Powys) yr oedd pawb o’r 22 yn siarad y ddwy iaith ac eithrio un a siaradai Gymraeg yn unig ac un arall a siaradai Saesneg yn unig. Ym mhob rhan arall o’r ardal, yr oedd pawb neu bron bawb yn siarad Cymraeg a nifer go dda ohonynt yn ei defnyddio fel eu hunig iaith, gyda’r eithriadau canlynol:

​

  • tref y Bont-faen (8 allan o 35 yn siarad Saesneg yn unig, neb yn siarad Cymraeg yn unig)

  • Llanfleiddan (3 allan o 33 yn siarad Saesneg yn unig, 12 yn siarad Cymraeg yn unig)

  • Llanilltud Fawr (25 allan o 88 yn siarad Saesneg yn unig. 7 yn siarad Cymraeg yn unig)

  • Sain Tathan a Silstwn (8 allan o 28 Saesneg yn unig, 1 Cymraeg yn unig)

  • ardal y Rhws (5 allan o 26 Saesneg yn unig, neb yn siarad Cymraeg yn unig)

  • ardal Penarth (7 allan o 29 Saesneg yn unig, neb yn siarad Cymraeg yn unig)

 

Nid ymfudo oedd yn cyfrif am gryfder yr iaith Saesneg yn y Bont-faen nac yn y rhes fechan o blwyfi yn ymyl y môr yng ngwaelod eithaf y Fro, gan mai brodorion o Forgannwg oedd mwyafrif llethol y trigolion yno yng nghyfrifiad 1841. Yn hytrach dyma weddillion Saesonaeth yn debyg i’r rheiny yn ne Penfro a Bro Gŵyr, gyda’r Gymraeg dros amser wedi ennill tir ar draul y Saesneg nes dod yn brif iaith y rhan fwyaf o’r ardal, ond gyda’r naill iaith a’r llall yn dal mewn defnydd rheolaidd ym mhob rhan o’r Fro.

​

Yn nhref Caerdydd, oedd erbyn 1891 yn cynnwys y Rhath a Threganna, Saesneg oedd unig iaith y mwyafrif. Cyfrwyd sampl o 10% o’r brodorion dros 50 ym 1891, a dim ond 21 allan o 78 oedd yn siarad Cymraeg, gyda 3 ohonynt yn siarad Cymraeg yn unig. Efallai mai Seisnigrwydd cymharol yr hen dref gyn-ddiwydiannol oedd yn cyfrif am ran o hyn (fel ag yn y Bont-faen), ond yr oedd y dref wedi profi ymfudo sylweddol yn hanner cyntaf y ganrif. Yn y plwyfi gwledig o gwmpas y dref, Cymraeg a siaradai’r mwyafrif. Y mwyaf Seisnig ohonynt oedd yr Eglwys Newydd, gyda 19 allan o 76 yn siarad Saesneg yn unig. Ar y llaw arall yn Llanedern, Llanisien a Llysfaen, Cymraeg oedd unig iaith 25 allan o 56.

​

Sir Fynwy

​

Ac eithrio Sir Faesyfed yn Sir Fynwy yr oedd y Gymraeg ar ei gwannaf, ond yr oedd yn dal i fod yn iaith y mwyafrif mewn rhan fawr o’r sir, gan gynnwys yr ardaloedd mwyaf poblog. Yn Rhymni yn unig yr oedd yna fwyafrif yn siarad Cymraeg yn unig ond yr oedd yna gyfran eithaf sylweddol nad oeddent yn siarad Saesneg mewn nifer o ardaloedd eraill, megis Bedwas (22 allan o 51), Tredegar (32 allan o 119), Blaenafon (9 allan o 69), Glynebwy (18 allan o 78) a Nant-y-glo a Blaenau (17 allan o 54). Hyd yn oed ym Mhont-y-pŵl ar ymyl dwyreiniol eithaf yr ardal ddiwydiannol yr oedd 3 allan o 39 yn siarad Cymraeg yn unig. Yn yr ardaloedd gwledig, Cymraeg yn unig a siaradai 10 allan o 28 yn Llanbedr Gwynllŵg a Llansanffraid Gwynllŵg, ac 11 allan o 53 yn Llaneirwg a Thredelerch.

​

Yr ardaloedd ble y siaredid Cymraeg gan fwyafrif oedd y cymoedd gorllewinol i gyd, yr ardal wledig rhwng Casnewydd a Chaerdydd, ardal Blaenafon a rhes o blwyfi gwledig i’r dwyrain o’r ardal ddiwydiannol, sef Llanwenarth a Llanffwyst, Llanelen a Llanofer, Goetre a Mamheilad, a Glasgoed, Coed-y-mynach, Pont-y-moel a Llanbadog. Yr oedd yna leiafrif sylweddol yn ei siarad yn ardaloedd Abersychan, Pont-y-pŵl a Chwmbrân a hefyd ym mhlwyfi gwledig Llandeilo Bertholau a Chwm-iou. Ychydig iawn a siaradai Gymraeg yn nhref Casnewydd, sef 4 allan o 79 yn y sampl o 10% a gyfrwyd, a hynny er bod 6 allan o 7 o hen frodorion y rhan wledig o blwyf Casnewydd yn siarad Cymraeg.

​

Fe’i siaredid hefyd gan leiafrifoedd bychain ond nid disylw mewn ardaloedd gwledig eraill fel y plwyfi bychain i’r dwyrain o’r Fenni,  ac mor bell i’r dwyrain â Rhaglan (2 allan o 29 yn siarad Cymraeg). Ychydig iawn a siaradai Gymraeg yn nhraean mwyaf dwyreiniol y sir, ond yr oedd yr ychydig hynny yn ddigon i awgrymu mai yn eithaf diweddar yr oedd yr iaith Gymraeg wedi cilio mewn rhan helaeth o’r ardal. Ategir hyn gan y ffaith bod gwasanaethau Cymraeg yn dal i gael eu cynnal mewn eglwysi gwasgaredig yno yng nghanol y ddeunawfed ganrif, tra bod yna bregethu yn Gymraeg yng nghapel Annibynnol Llanfaches yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Hefyd, tystiai Syr Joseph Bradney, hanesydd y sir, o’i wybodaeth ei hun am barhad siaradwyr Cymraeg yma ac acw yn nwyrain y sir hyd at ei ddyddiau ef.

 

Newid Cymdeithasol yn ystod y 19eg Ganrif

 

Trawsffurfiwyd Cymru bron yn llwyr yn ystod y ganrif, yn bennaf oherwydd i’r economi gael ei thrawsffurfio gan ddatblygiad y Chwyldro Diwydiannol, oedd wedi dechrau ar raddfa fechan yn y ganrif flaenorol. Gwelwyd cynnydd anferthol yn y boblogaeth mewn rhai rhannau o’r wlad, gyda gostyngiad mewn rhannau eraill. Yr oedd hynny’n ganlyniad i fudo rhwng gwahanol ardaloedd yng Nghymru, yn ogystal â mudo i mewn i Gymru, yn bennaf o Loegr.

​

Trawsffurfiwyd y wlad yn gymdeithasol hefyd, wrth i’r Cymry droi at Anghydffurfiaeth, gyda’r capeli’n datblygu i fod yn llawer cryfach na’r eglwys sefydledig erbyn canol y ganrif, a’r oruchafiaeth honno yn cael ei atgyfnerthu yn ystod ail hanner y ganrif. Hefyd fe ddatblygodd y gyfundrefn addysg yn ystod ail hanner y ganrif. Yr oedd y mwyafrif yn anllythrennog yng nghanol y ganrif, gyda’r rhan fwyaf o ddigon o ferched ac yn agos i hanner y dynion yn methu llofnodi’r gofrestr wrth briodi. Erbyn ei diwedd, ychydig iawn oedd yn methu llofnodi. Yn Saesneg y darperid yr addysg, ac un o’r prif amcanion oedd sicrhau fod y Cymry yn medru Saesneg.

​

Effaith ieithyddol hynny oedd sicrhau mai Saesneg oedd yr iaith gyffredin yn yr ardaloedd Cymraeg hynny a brofodd fewnfudo o unrhyw faint o Loegr ac o’r ardaloedd Saesneg yng Nghymru. Maes o law, parodd hynny i’r iaith Gymraeg ildio ei lle i’r Saesneg yn y rhan fwyaf o ardaloedd mwyaf poblog Cymru.

​

Ar ddechrau’r ganrif Merthyr Tudful, gan gynnwys Dowlais,  oedd y dref fwyaf yng Nghymru, gyda 7,000 o bobl, ac Abertawe yn ail. Hwy oedd yr unig ganolfannau diwydiannol o bwys yn y de, gydag Amlwch a Threffynnon amlycaf yn y gogledd.

Erbyn canol y ganrif, Merthyr oedd ar y blaen o hyd, gyda 35,000 o bobl yn 1841, tra’r oedd Abertawe wedi cynyddu o 6,000 i 17,000. Prif borthladdoedd eraill y de oedd Casnewydd gyda 14,000 o bobl a Chaerdydd gyda 10,000. Lleoedd bychain disylw oedd y ddwy dref ar ddechrau’r ganrif. Felly hefyd drefi diwydiannol blaenau’r cymoedd, megis Pont-y-pŵl, Abersychan, Blaenafon, Brynmawr, Nant-y-glo, Tredegar, Aberdâr a Hirwaun a oedd wedi datblygu o fawr ddim ar ddechrau’r ganrif. Cynyddodd y boblogaeth yn y plwyfi oedd yn cynnwys y trefi hyn o 10,000 ym 1801 i 78,000 ym 1841. Mae’n amlwg mai mewnfudwyr oedd yn cyfrif am y rhan fwyaf o ddigon o’r cynnydd. Gan mai Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o ddigon o hen frodorion y trefi hyn – ac eithrio Pont-y-pŵl ac Abersychan -  ym 1891, mae’n debyg mai o ardaloedd Cymraeg y siroedd cyfagos y daethai’r rhelyw o’r ymfudwyr. Mannau eraill ym Morgannwg o faint erbyn 1841 oedd Treforys, Castell Nedd, Cwmafan, Tai-bach a Maesteg.

​

Yn y gogledd, erbyn 1841, yr oedd ardal y chwareli llechi ac ithfaen ynghyd a’u porthladdoedd yn prysur ddatblygu yn siroedd Caernarfon a Meirionnydd, tra’r oedd ardal ddiwydiannol siroedd Dinbych a Fflint hefyd ar i fyny, gyda threfi a phentrefi megis Rhosllannerchrugog, Cefn Mawr, Brymbo, Bwcle, Cei Connah, Fflint, Bagillt a Mostyn i gyd wedi tyfu’n gyflym. Fel yn y de, mae’n amlwg mai Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o ddigon o bobl a ddaeth i’r lleoedd hyn, ac eithrio Bwcle a Chei Connah.

​

Erbyn 1891, yr oedd y llif o fewnfudo i’r ardaloedd diwydiannol wedi troi’n ddilyw. Erbyn hynny, yr oedd poblogaeth Caerdydd wedi tyfu o 10,000 i 129,000 ac Aberdâr o 6,000 i 41,000, ac yr oedd y rhannau o’r meysydd glo nad oeddent wedi eu datblygu yn hanner cyntaf y ganrif i gyd yn llenwi’n gyflym gyda mewnfudwyr. Y cynnydd mwyaf syfrdanol yn y boblogaeth oedd hwnnw yn hen blwyf Ystradyfodwg, sef y rhan fwyaf o gymoedd Rhondda. 730 o bobl oedd yno ym 1841, yn cynyddu i 69,000 erbyn 1891. Ar raddfa lai, gwelwyd cynnydd sylweddol yn y boblogaeth mewn trefi glan môr yn y gogledd a’r de, gan gynnwys Llandudno, y Rhyl, Bae Colwyn, Penarth a’r Barri. I bob pwrpas, trefi hollol newydd oedd nifer o’r rhain.

​

Amrywiol iawn oedd mannau cychwyn yr ymfudwyr i’r ardaloedd poblog yn ail hanner y ganrif, gyda gwahaniaethau mawr rhwng ardal ac ardal. Dengys cyfrifiad 1891 fannau geni preswylwyr y pum lle mwyaf yng Nghymru, gydag 86% wedi eu geni yng Nghymru ym Merthyr a’r Rhondda, 82% yn Abertawe, 67% yng Nghasnewydd, a dim ond 60% yng Nghaerdydd. Yn gyffredinol, mae’n ymddangos fod ymfudwyr yn tueddu i fynd i’r lleoedd oedd agosaf at adref iddynt, gyda mwy o orllewin a chanolbarth Cymru yn mynd i faes glo’r de, a mwy o’r rhannau cyfagos o Loegr yn mynd i drefi’r glannau. Yr oedd hynny’n amlwg yn mynd i gael effaith fawr ar gymeriad cymdeithasol ac ieithyddol y gwahanol ardaloedd wedi hynny.

​

Nid dim ond y prif ardaloedd diwydiannol a brofodd ymfudo o Loegr ac o fannau eraill. Wrth i bobl ifainc cefn gwlad  Cymru heidio i’r ardaloedd diwydiannol, daethai eraill i gymryd eu lle, llawer ohonynt dros y ffin. Yr oedd 16% o drigolion Sir Faesyfed ym 1891, ac 11% yn Sir Drefaldwyn wedi symud yno o Loegr. Efallai bod hynny hyd yn oed yn amlycach yn ardaloedd gwledig siroedd Morgannwg a Mynwy. Yng ngeiriau Syr Joseph Bradney, hanesydd Sir Fynwy, yn sôn am ddwyrain y sir yn y 1890au “... during the last twenty years the population of all this country has changed to an extraordinary extent – immigrants have come from all parts and the natives have been migrating elsewhere.” (1)

​

Golygai’r newidiadau ysgubol hyn yn y boblogaeth yn ystod y ganrif mai newydd-ddyfodiaid, neu blant ac wyrion newydd-ddyfodiaid, oedd y rhelyw o’r boblogaeth mewn sawl lle erbyn 1891. Mae’r ymdriniaeth hwn yn trin â’r iaith neu ieithoedd a siaredid gan yr hen frodorion ym mhob ardal, er mwyn ceisio dangos beth oedd y sefyllfa ieithyddol mewn cyfnod cynharach. Felly, mewn llawer i ardal, nid yw’n adlewyrchu’r sefyllfa erbyn 1891. Ar y llaw arall, mewn ardaloedd oedd wedi Seisnigo yn ystod y cyfnod, mae’n debyg fod nifer o’r hen frodorion wedi troi o Gymraeg eu hieuenctid at Saesneg.

 

 

  1. J.E. Southall, Wales and her Language, Newport (1893), page 346

 

Trefn y Cyfrifiad
​

Yr oedd cyfrifiad 1891 yn dilyn yr un drefn â chyfrifiadau cynharach y 19eg ganrif, er bod newid cymdeithasol yn golygu bod y drefn honno erbyn hynny yn llai addas i amgylchiadau’r cyfnod. Cyflogid swyddogion lleol i fynd o dÅ· i dÅ· ym mhob dosbarth cyfrif er mwyn holi pwy oedd yn byw yno. 

​

Ardaloedd y Cyfrif

​

Ar sail plwyfi y trefnid y cyfrifiad, gyda phob plwyf yn cynnwys un neu nifer o ddosbarthau cyfrif. Erbyn 1891, nid oedd hen drefn y plwyfi yn cyfateb gystal ag o’r blaen i ddosbarthiad y boblogaeth. Ad-drefnwyd rhai o’r plwyfi hynafol gan eu rhannu ‘n “blwyfi suful” llai, a dyna’r “plwyfi” ar gyfer y cyfrifiad. Hefyd, fe sefydlwyd “plwyfi eglwysig” newydd a oedd yn wahanol eto. Yn enwedig ym maes glo’r de, yr oedd terfynau’r plwyfi yn medru torri ar draws y trefi newydd oedd wedi dod i fodolaeth yn ystod y 19eg ganrif. Yr oedd tref Pontypridd wedi ei sefydlu ble yr oedd pedwar gwahanol blwyf yn cyfarfod, ac felly wedi ei rhannu rhyngddynt. Felly hefyd Glynebwy, gyda dau o’r pedwar plwyf ym Mrycheiniog a’r ddau arall yn Sir Fynwy. Yn rhannol oherwydd hynny, yr oedd yna “urban sanitary districts” wedi eu sefydlu i gymryd lle'r hen blwyfi, ond nid at ddibenion y cyfrifiad. Yn fuan wedi hynny, fe ddisodlwyd yr hen drefn yn llwyr gan y “dosbarthau trefol” newydd.

​

At ddibenion yr ymdriniaeth hon, nid oedd yn ymarferol dilyn trefn blwyfol y cyfrifiad yn ei chrynswth. Bu’n rhaid cyfuno plwyfi bychain mewn rhai lleoedd – yn gyffredinol cyfunwyd plwyfi gydag eraill pan oedd ganddynt boblogaeth o 500 neu lai ym 1841, er mwyn cael nifer ystyrlon o frodorion lleol dros 50 oed. Mewn ardaloedd oedd wedi profi mewnfudo yn hytrach nac allfudo, neu a oedd yn arbennig o anghysbell, gadawyd rhai plwyfi ychydig yn llai na hynny heb eu cyfuno ac eraill.

​

Pan oedd ardal drefol yn cynnwys rhannau o wahanol blwyfi, ceisiwyd cyfrif y dref gyfan fel un uned pan oedd yna fodd ymarferol o wneud hynny. Felly defnyddiwyd ffiniau’r bwrdeistrefi ar gyfer y trefi canlynol:

​

  • Pwllheli,

  • Rhuthun

  • Aberhonddu

  • Hwlffordd

  • Caerdydd

  • Casnewydd

 

Gwnaethpwyd hynny hefyd ar gyfer Abertawe, ond gan rannu ardal y fwrdeistref sirol yn ddau am y rheswm ei bod yn cynnwys dwy brif ardal drefol o gymeriad ieithyddol gwahanol oedd wedi tyfu at ei gilydd, sef Abertawe ei hun ar y naill law a Threforys a Glandŵr ar y llaw arall. Felly gwnaethpwyd cyfrif ar wahân o’r rhannau hynny o’r fwrdeistref sirol oedd yn perthyn i hen blwyfi Llangyfelach a Llansamlet.

Mewn dau achos arall, sef Dinbych a’r Trallwng, ni wnaethpwyd hynny am y rheswm mai ychydig o’r ardal drefol oedd y tu allan i’r prif blwyf, tra yr ymestynnai ffiniau’r fwrdeistref ymhell tu hwnt i’r ardal drefol.

Gwnaethpwyd cyfrif ar wahân ar gyfer trefi sylweddol eraill oedd yn rhan o blwyfi llawer mwy, sef:

​

  • Caergybi

  • Caernarfon

  • Bangor

  • Bethesda

  • Rhyl

  • Llanelli

 

Cyfunwyd plwyfi’r Drenewydd a Llanllwchaearn gan eu bod i bob pwrpas yn ffurfio un dref.

​

Defnyddiwyd terfynau’r dosbarthau trefol ar gyfer y trefi canlynol oedd yn ymestyn dros fwy nag un plwyf neu ran o blwyf, sef:

​

  • Bae Colwyn

  • Bwcle

  • Aberdaugleddau

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Rhondda (Ystradyfodwg)

  • Aberpennar (Llanwynno)

  • Pontypridd

  • Rhymni

  • Tredegar

  • Glynebwy

  • Brynmawr

  • Nant-y-glo a Blaenau (Aberystruth)

  • Abertyleri

  • Blaenafon

  • Abersychan (Trefddyn)

  • Pont-y-pŵl

  • Abercarn

  • Rhisga

 

Ni wnaethpwyd hynny gyda Llandudno er bod yr ardal drefol yn ymestyn i blwyf Eglwys-Rhos erbyn 1891, am y rheswm mai datblygiad diweddar iawn oedd hynny, ac mai newydd-ddyfodiaid oedd trigolion y rhan honno o’r dref.

​

Yr oedd cynnwys plwyf suful Eirias fel rhan o ddosbarth trefol Bae Colwyn yn golygu trosglwyddo rhan o Sir Gaernarfon i Sir Ddinbych. Felly hefyd gyda’r trefi ar yr hen ffin rhwng Brycheiniog a Sir Fynwy, sef Rhymni, Tredegar a Glynebwy.

​

Yn Sir y Fflint, rhannwyd plwyfi mawr diwydiannol rhwng eu gwahanol drefgorddau gan gyfuno’r rheiny i gael unedau ystyrlon, fel a ganlyn:

​

  • Treffynnon – Treffynnon, Maes-glas, Bagillt, Brynffordd, Cwnsyllt

  • Llaneurgain – Llaneurgain a Sychdyn, Rhosesmor, Cei Connah, Pentre-moch, Pentre Ffwrndan (gyda’r Fflint)

  • Yr Wyddgrug – Yr Wyddgrug, Coed-llai, Gwernymynydd, Gwernaffield a Rhyd-y-mwyn, Mynydd Isaf

  • Yr Hôb – Yr Hôb, Llanfynydd

 

Ni fedrid gwneud hynny gyda phlwyf Rhiwabon yn Sir Ddinbych, gan nad oedd terfynau’r dosbarthau cyfrif yn cyd-fynd gyda’r trefgorddau. Felly defnyddiwyd cyfrifiad 1901, erbyn pryd oedd y plwyf wedi ei rannu’n bedwar, sef Rhiwabon, Cefn, Pen-y-cae a Rhosllannerchrugog, gan gyfrif y brodorion oedd erbyn hynny dros 60 oed.

​

Y prif reswm dros rannu’r plwyfi hyn yn y gogledd-ddwyrain oedd y ffaith eu bod yn cynnwys ardaloedd o gymeriad ieithyddol gwahanol. Am yr un rheswm, rhannwyd plwyf Llanrhidian Uchaf ar gyrion Bro Gwyr, gan fod y Gymraeg yn wannach o dipyn yn y rhan o’r plwyf oedd i’r de o afon Morlais. Dyna hefyd a arweiniodd at wahanu rhai ardaloedd yn siroedd Penfro a Brycheiniog er eu bod yn llai na’r maint a ystyrid yn dderbyniol yn gyffredinol. Ni chyfunwyd plwyfi bychain Clarbeston a Dwyrain Waltwn gyda chymdogion mwy am y rheswm eu bod yn eglur o gymeriad cymysg, gyda phlwyfi trwyadl Gymraeg a thrwyadl Saesneg ar y naill ochr a’r llall iddynt. Rhannwyd plwyf Llanhuadain yn ddau oherwydd bod y rhannau ar y naill ochr a’r llall i afon Cleddau o gymeriad ieithyddol hollol wahanol i’w gilydd. Dim ond naw o frodorion dros 50 oed oedd yna ar y naill ochr, ond yr oedd chwech ohonynt yn uniaith Gymraeg. Ar yr ochr arall, yr oedd y mwyafrif yn uniaith Saesneg. Ardal fechan arall a gadwyd ar wahân oedd Capel-y-ffin ym Mrycheiniog, ble nad oedd yna ond chwech o frodorion dros 50, gyda phedwar ohonynt yn siarad Cymraeg. Nid oedd yn briodol ei chyfuno gyda phlwyfi eraill yn yr un sir oedd yn terfynu arni gan eu bod bron yn gyfan gwbl Saesneg, ac y byddai hynny felly yn creu argraff gamarweiniol ynghylch y naill ardal a’r llall. Yn ogystal, nid oedd yna gysylltiad naturiol rhyngddynt gan ei bod wedi ei hynysu oddi weddill y sir gan y Mynydd Du.

​

Dadansoddi’r Cyfrif

​

Mewn rhannau helaeth o Gymru, yr oedd yn amlwg ddigon mai Cymraeg oedd yr iaith a siaredid gan bawb, neu bron bawb, gyda lleiafrif yn siarad Saesneg. Mewn rhannau eraill, yr oedd goruchafiaeth yr iaith Saesneg yr un mor bendant. Yng ngweddill y wlad, nid oedd pethau yn llawn mor amlwg.

​

Ble yr oedd yn eglur bod mwyafrif o’r holl boblogaeth ym 1891 wedi eu cofnodi fel siaradwyr Cymraeg yn unig, cymerwyd hynny fel tystiolaeth ddigonol mai dyna hefyd y sefyllfa ar gyfer brodorion lleol dros 50 oed. Yn yr ardaloedd hynny, gwnaethpwyd arolwg o’r holl ffurflenni a ddychwelwyd ar gyfer y cyfrifiad er mwyn cadarnhau fod hynny’n gasgliad teg ac er mwyn dod o hyd i bob unigolyn brodorol dros 50 nad oedd yn siarad Cymraeg. Yn y plwyf unigol mwyaf poblog a oedd yn amlwg yn drwyadl Gymraeg, sef Ffestiniog, gwnaethpwyd hynny gyda sampl o 25% o’r ffurflenni ar gyfer pob dosbarth cyfrif.

Trefn gyffelyb a ddilynwyd ar gyfer yr ardaloedd ble yr oedd pawb neu bron bawb yn siarad Saesneg yn unig, gyda’r bwriad o ddod o hyd i unrhyw frodor dros 50 oedd hefyd yn siarad Cymraeg.

​

Ym mhob man arall, gwnaethpwyd cyfrif o’r brodorion dros 50, gan nodi faint oedd yn siarad y naill iaith neu’r llall, neu’r ddwy iaith. Yn yr ardaloedd mwyaf poblog, bodlonwyd ar wneud hynny gyda sampl o’r ffurflenni ym mhob dosbarth cyfrif. Yn y plwyf mwyaf poblog ohonynt oll ym 1841, sef Merthyr Tudful, defnyddiwyd sampl o 5%, a 10% yn y trefi mwyaf eraill, sef Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd. Defnyddiwyd sampl o 25% yn y mannau canlynol:

​

  • Caergybi

  • Caernarfon

  • Bangor

  • Wrecsam

  • Y Drenewydd

  • Aberhonddu

  • Aberystwyth

  • Caerfyrddin

  • Llandeilo Fawr

  • Llanelli

  • Treforys

  • Castell Nedd

  • Margam

  • Maesteg (Cwmdu)

  • Ogwr a Garw

  • Llantrisant

  • Rhondda

  • Pontypridd

  • Caerffili (Eglwysilan)

  • Aberdâr

  • Gelligaer

  • Rhymni

  • Tredegar

  • Glynebwy

  • Nant-y-glo a Blaenau 

  • Blaenafon

  • Abersychan 

  • Pont-y-pŵl

  • Pant-teg

  • Bedwellte

  • Mynyddislwyn

  • Abercarn

  • Rhisga

 

Yr oedd yna rai ardaloedd ar y ffin na chynhwyswyd mohonynt yng nghyfrifiad ieithyddol 1891 am eu bod yn perthyn i ddosbarthau cofrestru yn siroedd Lloegr. Erbyn y cyfrifiad nesaf ym 1901 yr oedd hynny wedi ei gywiro, a’r ffurflenni a ddychwelwyd y tro hwnnw a ddefnyddiwyd ar gyfer yr ardaloedd hynny, gan gyfeirio at y brodorion lleol oedd dros 60 erbyn hynny. Yr unig ardaloedd nad oeddent y hollol Saesneg oedd pump yn siroedd Dinbych a Fflint , sef Y Waun, Bwcle, Treuddyn, Yr Hob a Llanfynydd. Cyfrifiad 1901 a ddefnyddiwyd hefyd ar gyfer y plwyfi yr oedd plwyf mawr Rhiwabon wedi ei rannu iddynt yn dilyn cyfrifiad 1891.

​

Yr oedd y diffiniad o frodorion lleol yn dibynnu ar yr ardal, gan gynnwys y rhai oedd yn enedigol o unrhyw un o’r plwyfi a gynhwyswyd mewn ardal ble y cyfunwyd plwyfi, unrhyw un o bentref neu ardal a orweddai ar ffin y plwyf, ac unrhyw un a nodwyd ei fan geni fel enw’r plwyf mewn plwyf a rannwyd.

​

Weithiau, yr oedd y wybodaeth ar y ffurflenni yn aneglur, oherwydd safon y copi, neu ysgrifen y swyddog cyfrif, neu wybodaeth amhendant neu anghyflawn. Ni chynhwyswyd unigolion na fedrid bod yn sicr  beth oedd eu man geni neu eu hoedran neu ba iaith neu ieithoedd a siaradent, ac ni threuliwyd amser yn ceisio dehongli beth oedd yn aneglur.

Y Data

 

Dangosir yma, yn nhrefn y siroedd, y data a ddefnyddiwyd i lunio'r mapiau. Er gwybodaeth rhoddir poblogaeth y plwyfi hanner can mlynedd cyn dyddiad y cyfrifiad, sef 1841. Dangosir y boblogaeth ar gyfer 1891 hefyd pan fu yna gynnydd mor fawr dros yr hanner canrif nes ei bod yn debyg mai ymfudwyr neu ddisgynyddion i ymfudwyr oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth erbyn hynny.

bottom of page