top of page
Hen Raniadau’r Wlad
​

Dechreuwyd creu’r map hwn fel ymgais i ddangos lleoliad a ffiniau hen gantrefi a chymydau Cymru, cyn sylweddoli nad yw hynny’n hollol bosibl. Nid oedd y wlad wedi ei rhannu’n daclus mewn cantrefi a chymydau. Mewn rhai ardaloedd cantrefi oedd y prif unedau, weithiau gydag is-raniadau a elwid yn gymydau. Mewn ardaloedd eraill, cymydau oedd bwysicaf, weithiau wedi eu casglu ynghyd mewn ardaloedd mwy a elwid yn gantrefi. Mewn rhai ardaloedd diflannodd yr atgof am y rhaniadau gwreiddiol wedi iddynt gael eu disodli yn sgil dyfodiad yr Eingl-Normaniaid i Gymru.

​

Gan hynny aethpwyd ati i geisio dangos sut oedd y Cymry yn gweld ac yn deall lle oedd lle a beth oedd beth yn eu gwlad yn y cyfnod cynharaf bosibl, sef yn dilyn ymosodiad gwreiddiol y Normaniaid ond wedi iddynt gael eu gwthio’n ôl i raddau mawr gan wrthsafiad y tywysogion Cymreig. Felly dangosir y sefyllfa gyffredinol yn ystod ail hanner y ddeuddegfed ganrif, sef cyfnod Owain ap Gruffydd (Owain Gwynedd) yng Ngwynedd, Madog ap Maredudd ym Mhowys a Rhys ap Gruffydd (Yr Arglwydd Rhys) yn y Deheubarth. Dangosir hefyd y canolfannau a’r trefniadau a sefydlwyd wedi hynny gan y Cymry – yn bennaf gan dywysogion Gwynedd – ond nid gan y Normaniaid.

​

O gyfnod diweddarach yn dilyn buddugoliaeth brenin Lloegr ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ac weithiau ymhell wedi hynny, y daw’r rhan fwyaf o’r wybodaeth a ddefnyddiwyd i lunio’r map. Serch hynny teimlwyd fod yna ddigon o dystiolaeth i geisio dangos y sefyllfa yn ystod y ddwy ganrif cyn hynny, sef y cyfnod a adwaenir fel Oes y Tywysogion.

​

Argraff yn unig a fedrir ei roi o beth oedd beth yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid oes modd darparu map gwirioneddol awdurdodol, gan fod pethau yn newid drwy gydol y cyfnod. Yr oedd arglwyddi Cymreig a Normanaidd yn ymladd yn gyson yn erbyn ei gilydd ac ymysg ei gilydd, gan olygu mai amhendant a chyfnewidiol oedd holl drefniadau’r wlad. Yr oedd hyd a lled unrhyw arglwyddiaeth ar unrhyw adeg yn dibynnu ar nerth ei harglwydd ar y pryd, a lleoliad ei harglwydd oedd lleoliad ei llys. Yn yr eglwys, wrth i fynachlogydd newydd gael eu sefydlu yn ystod y cyfnod, yr oeddent yn disodli pwysigrwydd yr hen eglwysi clas. Hefyd, ni ellir gwybod i sicrwydd pa bryd yn ystod yr Oesoedd Canol y sefydlwyd llawer o ganolfannau megis cestyll ac abatai. Felly gellid dadlau gyda llawer o’r manylion a ddangosir ar y map, ond rhaid derbyn mai darlun cyffredinol yn unig mae yna fodd i’w roi.

​

Camgymeriad fyddai meddwl am y teyrnasoedd, y cantrefi a’r cymydau a ddangosir ar y map fel endidau oesol a digyfnewid. Yr oedd Gwynedd yn deyrnas eithaf sefydlog – gyda ffiniau cyfnewidiol - ers canrifoedd lawer, ond mynd a dod oedd hanes y prif unedau gwleidyddol eraill. Goresgynwyd Gwynedd yn gynnar gan y Normaniaid cyn iddynt gael eu lluchio allan gan Gruffydd ap Cynan. Hyd yn oed yno mae yna olion o ad-drefnu diweddar yn dilyn y goruchafiaeth Normanaidd byr-hoedlog. Er enghraifft, yn LlÅ·n mae yna le i feddwl mai yng nghyffiniau Llanbedrog oedd prif lys gwreiddiol y cantref, ond erbyn y cyfnod a ddangosir ar y map yr oedd llysoedd newydd ble yr adeiladwyd myntau gan y Normaniaid ym Mhwllheli a Nefyn. Hefyd yna le i feddwl mai is-raniadau diweddar oedd y tri chwmwd yno, gan eu bod yn cynnwys clofannau ac allglofannau er mwyn medru cadw tiroedd dan yr un berchnogaeth dan un oruchwyliaeth. Er iddynt aros yn unedau gweinyddol am ganrifoedd wedi hynny, mae’n debyg na fuont erioed yn unedau ystyrlon i neb ond i’w gweinyddwyr.

​

Nid oedd yna gysondeb ychwaith gyda’r modd y diffinid rhaniadau’r wlad. Er enghraifft, medrid cyfrif fod Llantrisant yn un plwyf mawr yn cynnwys tua chwarter o Forgannwg, neu medrid ei gyfrif fel nifer o blwyfi gwahanol. Soniwyd eisoes mai cantrefi oedd bwysicaf mewn rhai ardaloedd a chymydau mewn eraill. Ceisir dangos y sefyllfa hon ar y map trwy wahaniaethu rhwng y prif raniadau lleol a rhai eilradd. Yn yr ardaloedd oedd drymaf dan ddylanwad Normanaidd, disodlwyd yr hen gantrefi a chymydau gan arglwyddiaethau newydd, a’r arglwyddiaethau hynny a ddangosir ar y map.

bottom of page